Cymraeg/ Welsh Services

Er 'mod i bellach yn byw yn ne-ddwyrain Llundain, 'rwy'n Gymraes i'r carn.

​Mi fyddwn i wrth fy modd yn eich helpu chi gyda’ch anghenion cyfathrebu, materion cyhoeddus neu gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg. Rwy’n cynnig fy holl wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rwy’n hapus i deithio i Gymru ar gyfer eich digwyddiadau neu gyfarfodydd.

Mae gen i brofiad helaeth o weithio gyda chwmnïau, elusennau a chymdeithasau Cymreig, yn ogystal â Llywodraeth Cymru a’r Senedd. Rwyf hefyd wedi siarad ar ran CBI Cymru a Chonsortiwm Manwerthu Cymru ar BBC Radio Cymru a rhaglen deledu Newyddion.

Gyrrwch ebost am rhagor o fanylion.

I’m a fluent Welsh speaker and I’d be delighted to discuss the practicalities of providing a Welsh language service with you.